
Pa Le Mae ‘Nghariad I?
Pa le mae ‘nghariad i?
Oes neb yn unman ŵyr?
Pa le mae ‘nghariad i,
Mae’n dechrau mynd yn hwyr.
Ac nid oes ddim o sŵn ei throed,
Pa le mae ‘nghariad i?
Ni thorrodd Sian mo’i gair erioed,
Pa le mae ‘nghariad i?
More…
Pa Le Mae ‘Nghariad I?
—Where is my love?
A doleful and grief-stricken song about a lover who failed to turn up as promised. The explanation comes in the last lines: “the soil is red near the church tower.” Noted in Llanidloes, from the singing of a tramp in Cwm Ystwyth, Ceredigion.
Pa le mae ‘nghariad i?
Oes neb yn unman ŵyr?
Pa le mae ‘nghariad i,
Mae’n dechrau mynd yn hwyr.
Ac nid oes ddim o sŵn ei throed,
Pa le mae ‘nghariad i?
Ni thorrodd Sian mo’i gair erioed,
Pa le mae ‘nghariad i?
Pa le mae `nghariad i?
Mae cwmwl dros y lloer,
Pa le mae `nghariad i?
Mae’r gwynt yn chwythu’n oer.
Addawodd im ger tŵr y llan
“Fe ddof, fy nghariad i,”
Ond unig heno yw fy rhan,
Pa le mae `nghariad i?
Pa le mae `nghariad i?
Mae’r nos mor hwyr, mor hwyr,
Pa le mae `nghariad i?
Daw ataf un a ŵyr,
“Mae’r pridd yn goch ger tŵr y llan
Lle huna’th gariad di,”
Mor unig, unig yw fy rhan,
Nos da, fy nghariad i.
The notation for this song and more is available in the collection Canu Haf

0 Comments